HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith yr Hâf i’r Cairngorms Mai 17-23 2025


Taith yr Hâf i’r Cairngorms Mai 17-23 2025

Dyma’r gofrestr fynydda’r wythnos yng ngeiriau arweinwyr y teithiau:


Dydd Sul 18 Mai

Ben Macdui (1,309 m) a Cairn Gorm (1,244 m)
Dwynwen, Andras, Anna, Anwen (Cricieth), Dylan, Eryl, Gaynor, Gerallt, Gethin, Iolo, (Jano (Cricieth), Llywarch, Mabon, Mark Wyn, Sandra, Sioned Llew, Sioned Prys, Tegwen. 18 o’r aelodau yn mynd gyda ei gilydd i gyrraedd copaon Ben Macdui (1,309 m) a Cairn Gorm (1,244 m). Diwrnod cyntaf da a’r haul yn tywynnu a phawb yn ei “shorts” ond gwynt cryf o’r gogledd (Wind Chill o -2ºC).

Meall Chuaich (951 m)
Mentrodd Keith i fyny Meall Chuaich (951 m) o’r Gilfan 93 ar yr A9 wrth yrru i Aviemore i ddechrau yr wythnos ddiwrnod yn hwyr. Yna, o’r gilfan ac yn ddigon ddi-stŵr wrth dilyn yr lôn pwerdy hydro ac am Loch Cuaich cyn dechrau dringo yn serth i’r copa wedyn, yna, amser am rhai lluniau, ac nôl i lawr yr ar hyd yr un llwybr. Taith o 9.5 milltir ac esgyniad o 700 m.


Dydd Llun 19 a Mawrth 20 Mai

Bothy “Bob Scott” Glen Derry
Dwynwen, Anwen (Cricieth), Dylan, Gerallt, Sioned Prys.
Taith ddau diwrnod yn nyffrynnoedd y Cairngorm Larig Gru, gan aros yn bothy “Bob Scott” Glen Derry ac ymlaen or bothy ar hyd yr Lairig an Laoigh. Lot o hwyl a chwerthin.

Carn Dearg (945 m), Carn Sgulain (920 m) ac A’ Chailleach (930 m)
Andras, Gethin, Mabon a Sandra.
Cafodd y “fantastic four” sef Andras, Gethin, Mabon, Sandra 3 Munro sef yr uchod Carn Dearg (945 m), Carn Sgulain (920 m) ac A’ Chailleach (930 m).

A’Bhuidheanach Bheag (937 m), a Carn na Caim (941 m)
Eryl, Anna, Gaynor, Iolo, Sioned Llew, Tegwen
O gilfan 87 a chroesi’r A9 (rhan fwyaf peryglus y daith!!). Cychwyn yn serth a’r trac saethu caregog at gyffordd yn y llwybr ac anelu gyntaf am A’Bhuidheanach Bheag a golygfa eang o nôl i’r gyffordd a draw am Carn na Caim ar ysgwydd ddigon undonog at y copa ei hyn lle wneuthum ei chyffwrdd, a troi nôl ar ein sodlau ar hyd yr ysgwydd undonog nes cyrraedd y trac saethu eto, ac i lawr yn serth yn ôl i’r man cychwyn a’r car. Dathliad byr yn yr tŷ tafarn bwyta Macdui’s.

Bynack More (1,090 m)
Roedd Keith angen cwblhau Bynack More yn unswydd ar ddechrau wythnos o gerdded, wedi iddo orfod troi yn ei ôl ar y daith yma yn ôl ym mis Medi 2024 oherwydd tywydd mawr gaeafol. Cychwyn unwaith eto o faes parcio Allt Mor a dilyn y llwybr coedwig hamddenol Glenmore a'r trac beic a gweithwyr coedwigoedd yr Alban am An Lochan Uaine a bwlch Ryvoan. Yna troi i'r de yn y gyffordd am yr afon Nethy wedyn codi yn raddol ar hyd ysgwydd Coire Odhar cyn cyrraedd y cribyn llydan am gopa Bynack More (1,090 m). Taith yn ôl wrth ymchwilio Bynack Beg a Coire Dubh.


Dydd Mawrth 20 Mai

Beinn Mheadhoin (1,182 m) o Loch A’n (Loch Avon)
Keith, Jano, Sioned Llew, Anna, Sandra.
Keith am fentro ar daith fach i archwilio dyffryn Loch A’n (Loch Avon) wedyn cael pleser cwmni'r genod. Wrth gwrs, mi aeth yn antur - gan gychwyn o faes parcio'r ganolfan scio ac anelu yn unswydd i fyny Fiacaill a Choire Chais ar carn (1,141 m). Cyfle am ambell selfie yma ac “FFotossiwt”. I lawr yn serth wedyn ar hyd llethr ceunant Allt Coire Raibeirt cyn cyrraedd loch A’n a chinio cyntaf y criw, ac yn ein lleoliad, cinio ddigon distaw wrth i bawb synnu ar yr olygfa a’r llonyddwch. Wedi cinio, dilyn y llwybr ar ochr y loch wedyn wrth anelu am yr “Shelter Stone” enwog ar lethr i fyny Allt nan Stacan Dubha cyn troi a dringo yn serth am y copa “cyntaf” sef Stacan Dubha (1,013 m). Yma gwnaeth y penderfyniad i ollwng y bagiau (heblaw KR!!) a charlamu ar gyflymder am yr uchafbwynt o Beinn Mheadhoin (1,182 m). Mymryn o sgrialu haws i gyrraedd ei ddau gopa Gwastad ac “Ffotossiwt” arall. Yn ôl yn drefnus wedyn i bigo’r bagiau i fyny ac yn ôl i lannau Loch A’n lle bu ambell o’r criw ymdrochi yno. Wedyn ail dechrau'r dringo ac yn ôl i'r maes parcio. Taith o tua 12 milltir/19 km.

Sgor Gaoith o Auchlean
Sgor Gaoith (1,118 m), MÔine Mhor (957 m), Mullach Clach a’ Bhlàir (1,019 m).
Andras, Gethin, Iolo, Mabon, Mark, Llywarch, ac Eryl
Cychwyn i fyny trwy’r coed i lwybr da wedyn uwchben Allt Fhearnagan i wastadedd mawnog (sych) yr ucheldir am Sgôr Gaoith (1,118 m). Troi yn ôl, i fynd ar draws MÔine Mhor (957 m) am yr ail gopa, Mullach Clach a’ Bhlàir (1,019 m). Dilyn ffordd drol, serth ar brydiau, i lawr i'r cwm o ryw 3 milltir ddymunol yn ôl at y ceir.


Dydd Mercher 21 Mai

Sgairneach MhÔr (991 m), Beinn Udlamain (1,011 m), A’Mharconaich (975 m)
Anwen, Dylan, Iolo, Sioned ac Eryl
Mynd tua bwlch Drumochter ar y cyn lôn filwrol y cadfridog Wade, gyda’r bwriad o gipio dau gopa, sef Sgairneach MhÔr (991 m) a Beinn Udlamain (1,011 m). Cychwyn wrth ddilyn y llwybr drwy’r twnnel o dan y rheilffordd ac i fyny Coire Dhomhain, cyn troi i fynd dros y bont gyntaf i godi i'r grib ac ymlaen am y copa gyntaf, sef Sgairneach MhÔr (991 m). Beinn Udlamain (1,011 m) yn edrych yn agos, ond angen mynd hanner tro i osgoi pen y cwm (Càrn ‘lc Loumhaidh, 809 m). Ar gyrraedd yr ail gopa, Beinn Udlamain (1,011 m), pawb mewn hwyliau da – felly ymlaen ar hyd yr ysgwydd Fraoch-choire am y  trydydd copa, A’Mharconaich (975 m) a dyfaru wedyn nad oedd dau gar gennym i wneud y bedwaredd - Gael-charn (917 m), sydd yn pedwerydd yn y gadwyn sydd dim ond fymryn yn ychwanegol i’w gwneud hi a chwblhau y restr o 4 Munro. Disgyniad serth iawn amdani felly i’r bwlch Coire an Tuirc (650 m), rhwng A’Mharconaich (975 m) ac An Torc/Boar of Badenoch (739 m) i ail ymuno a’r llwybr i’r ffordd fawr.

Braeriach (1,296 m), Sgor an Lochan Uaine (Angel’s Peak) (1,258 m), Carn Toul (1,291 m), Devils Point (1,004 m)
“Epic yr Ogia” 5 aelod, 4 Munro, 23 milltir,12 awr ac esgyniad o 2,001 m (6,564 o droedfeddi).
Gethin, Andras, Llywarch, Mabon, Mark Wyn.
Wrth ddod adra o daith Eryl dyma criw or hogia (Mark, Llywarch, Geth, Andras a Mabon) yn cael syniad o fynd am epic ar y dydd Mercher o gwblhau 4 Munro ar hyd y grib. Roedd y tywydd yn ffafriol a felly penderfynwyd i fynd amdani. Y noson yna roeddem yn gorfod bihafio a mynd i’n gwlâu yn gynnar ar gyfer yr her felly ar ôl boliad llawn o Chinese “all you can eat” dyma ni mynd am adra a ffarwelio a gweddill y criw yn y tŷ bwyta’r Winking Owl.

Wrth godi am 5 y bora dyma glywed sŵn llais Mark yn dod o’r ystafell fyw - roedd o wedi cael noson wael o gwsg, a Llywarch ‘run fath. Beryg bod y Chinese neithiwr ddim y dewis gora ond fe benderfynwyd bod Mark a Llywarch am ddod gyda ni i’r copa cynta ag ella troi yn ôl gyda Dwynwen, Gerallt, Gaynor, Tegwen a Sioned Llew a oedd am wneud 1 o’r copaon sef Braeriach.

Roedd hi’n fora braf a pawb mewn hwylia da fe ddaru ni gychwyn cerdded am 06:20 ac roedd cerdded drwy gap Chalamain yn bleserus iawn ac yn y fan hyn fe ddaru ni adael y criw arall ar ôl a dyrnu mlaen am y copa cyntaf. Roedd dipyn o ddringo gyda ni i wneud er mwyn cyrraedd y copa a pawb yn asu i gyrraedd yno am gyfle i gael rhywbeth i fwyta ac i fwynhau y golygfeydd. Wrth gyrraedd, fe welsom y grib ac ein taith o’n blaenau, roedd Mark a Llywarch yn teimlo yn well ac yn barod i gario ymlaen felly heb oedi fe aethom ymlaen at gopa rhif 2 sef Angel’s Peak.

Nid oedd cyfle i stopio, felly dim ond llun bach sydyn or criw ar y copa ac ymlaen a ni am Cairn Toul. Wrth fynd i fynnu am y copa fe welsom gysgodion duon yn y pellter ar y copa gynta, a criw Dwynwen oeddent yn edrych arnom yn bwrw ymlaen a’r diwrnod. Wrth gyrraedd y copa dyma ni yn gweld y criw yn dychwelyd lawr or copa a ninnau yn byrlymu ymlaen am y copa olaf.

Wrth ffeindio y llwybr lawr i gwm y Lairig Ghru fe ddaru ni ollwng ein bagia a rhuthro am y copa olaf, sef Devils Point. Roedd hi’n “high fives all round” ar y copa - pawb mewn hwylia da ar ôl cyrraedd y copa olaf. Penderfynwyd i adael y copa a chael cinio wrth bothi Corrour. Yma cyfarwyddom â dyn o’r Almaen a oedd yn aros yn y bothi dros nos. Wrth i ni gael cinio fe ddaru pawb arwyddo yn llyfr y bothi i ddeud ein bod wedi bod yna. Yna wrth adael fe gychwynom yn ôl am ein ceir yn gwybod bod 10 milltir o gerdded ar ôl gennym.

Fe welsom sawl person yn gwneud eu ffordd at y bothi i aros am y noson. Fe ddaru ni gwrdd a cwpwl o Ganada a wnaeth ddweud shwmai wrthom. Roeddent wedi gweld criw Dwynwen ar y ffordd ac wedi bod yn sgwrsho a wedi gofyn i basior negas ymlaen.

Roedd Mark yn un da ar hyd y daith fel Mr motivator, yn ein canmol am y cyflymder odda ni yn mynd ar hyd y daith. Mi roedd yna ddigon o dynnu coes a malu awyr i gadw ni mewn hwylia da ac wir mwynhau y daith. Wrth i’r ceir ddod yn agos roeddem yn meddwl am cân Rocky yn rhedeg ffynnu’r grisiau, roedd y gan yma ar ffôn Gethin a fe rhedodd o yn ôl i’r car gyda’r gerddoriaeth yn chwarae ac wrth iddo gyrraedd y car roedd ei freichia yn yr awyr fel Rocky.

Heno oedd noson olaf Mark a Llywarch ac i ddathlu gorffen y daith heddiw roedd yna barti i’w gael yn Avimore y noson honno gyda dipyn o ganu a dawnsio. Diweddglo da i ddiwrnod da.

Braeriach (1,237 m)
Gaynor, Gerallt, Dwynwen, Sioned Llew a Tegwen.
Cychwyn gyda’r “A Team”, ond dim ond un copa, sef Braeriach sy’n fynydd mawreddog.

Chalamain Gap Lairig Ghru
Anna, Keith, Sandra.
Diwrnod bach hamddenol i tri or criw heddiw, sef dro cymedrol trwy’r Chalamain Gap ac wedyn yr Lairig Ghru. Dro syth, er ddim gwastad, yna ac yn ôl.


Dydd Iau 22 Mai

Bynack More (1,090 m)Andras, Gethin, Mabon a Sandra.
Dyma ail griw yn anelu am Bynack More wrth iddynt gychwyn o faes parcio Allt Mor hefyd a dilyn y llwybr coedwig Glenmore a’r trac beic a gweithwyr coedwigoedd Albanaidd wrth fynd heibio An Lochan Uaine a’i glannau tywod a dŵr gwrdd at gyffordd bwlch Ryvoan. Troi yma am yr afon Nethy a dilyn y llwybr ar hyd ysgwydd Coire Odhar cyn y cribyn llydan am gopa Bynack More (1,090 m). Taith yn ôl ar hyd yr ffordd fewn, ond wrth fwynhau'r golygfeydd gogleddol.

Creag Meagaidh (1,130 m)
Anna, Anwen (Cricieth), Dwynwen, Dylan, Eryl, Gaynor, Gerallt, Iolo, Jano (Cricieth), Keith, Sioned Llew, Sioned Prys, Tegwen
Pawb mewn hwyliau da wrth i'r haul ddisgleirio’n boeth arnom wrth gychwyn o faes parcio Aberarder a cherdded ar hyd y ceunant Allt Dubh, lle agorodd allan i gwm Coill a’ Choire. Seibiant ar lannau Lochan a’ Choire ac ymdrochi yn yr olygfa o Coire Ardair ac Puist Coire Ardair uwch ein pennau ac o’n blaen. Yna codi yn raddol trwy Uinneag Coire Ardair/The Window ac ysgwydd lydan a chopa Creag Meagaidh (1,128 m) ei hun. Cinio yma ac unwaith eto gwledda ar yr olygfa 360º o’n cwmpas, cyn cychwyn yn ôl i lawr ysgwydd a chopa Puist Coire Ardair (1,071 m) a mymryn o gerdded pwyllog i lawr am Coire nan Gamhna. Mymryn o ymdrochi traed poeth yn nŵr yr afon Allt Coire Ardair wedyn. Wedi'r seibiant yn ôl yn barchus i'r maes parcio yn ddi-stŵr.


Dydd Gwener 23 Mai

Dyffryn Strathdearn  (New Findhorn) 10 milltir/16 km
Tegwen a Mabon
Taith hamddenol i chwilio am eryrod ond dim un i’w weld. Dyffryn agored a phorthdai ac afon lydan, digon o fywyd gwyllt gan gynnwys Maofau.

Bynack More (1,090 m)
Dwynwen, Eryl, Gerallt, Iolo.
Bynack More o Glenmore Lodge, taith digon hamddenol ar hyd llwybrau da mewn tywydd da ac methu gwrthsefyll y temtasiwn i cyrraedd copa Bynack Beg. Taith o tua 14 milltir/22 km.

A’Bhuidheanach Bheag (937 m) a Carn na Caim (941 m)
Andras, Dylan, Gethin, Keith, Sandra.
Unwaith eto, ond criw gwahanol, yn crwydro moelydd undonog y ddau gopa yma y tro yma lle, oni bai am y golygfeydd godidog 360º o’r ardal yn ei gogoniant, yr unig uchafbwynt arall oedd y cyn chwarel cwarts. Ond eto, dim ond dirwasgiad mwyaf annisgwyl oedd yno, ac un garreg cwarts tua medr a hanner o uchder yn sefyll fel brenin trist ddi-deyrnas yn ein gwylio ni. Y llwybr unwaith eto wedi dechrau ger y cilfan 87, chroesi yr A9. A chychwyn yn serth ar y trac saethu caregog nes cyrraedd y gyffordd a throi i’r chwith am Carn na Caim gyntaf, lle ar gyrraedd a munud o seibiant ymlaen am A’Bhuidheanach Bheag lle cafodd un o’r criw fodd i fyw wrth gael cyffwrdd y Pwynt “Trig” ar gyfer y cofnodion! Ddi lol yn ôl i’r ceir wedyn a charlamu nôl (gan ddilyn canllawiau cyflymder) am Aviemore i dorri syched, pryd haeddiannol a thrafod yr wythnos a fu.

Adroddiad gan Keith Roberts.

Lluniau gan nifer o'r aelodau ar FLICKR